Mae'r Rhaglen Anhwylder Personoliaeth Peryglus a Difrifol (DSPD) yn fenter ar y cyd gan y Swyddfa Gartref, y Gwasanaeth Carchardai a'r Adran Iechyd.
Amcan y rhaglen yw datblygu, treialu a chyflenwi gwasanaethau iechyd meddwl newydd ar gyfer troseddwyr sy’n dioddef o DSPD. Diffinnir y rhain fel pobl sydd:
Erbyn diwedd 2004, bydd mwy na 250 o leoedd diogelwch uchel ar gael i’w defnyddio mewn pedair uned DSPD ar safleoedd ar draws y wlad. Bydd 172 o’r rhain yn y Gwasanaethau Carchar, (92 yng Ngharchar EM Whitemoor, ac 80 yn yr uned DSPD newydd bwrpasol yng ngharchar EM yn Frankland), yr 80 arall yn y Gwasanaeth Iechyd (10 yn y Gwasanaeth Peilot yn Ysbyty Broadmoor, 70 yn yr uned newydd bwrpasol yn Ysbyty Rampton). Bydd 70 o leoedd eraill ar gael pan fydd y gwaith o godi’r uned DSPD newydd yn Broadmoor wedi cael ei gwblhau yn yr haf 2005.
Mae gwaith asesu a thrin yn digwydd eisoes yn yr unedau a bydd yn cael ei adolygu a’i fireinio’n barhaus er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n llwyddo wrth drin troseddwyr gydag anhwylderau personoliaeth difrifol.